As the world’s leading independent conservation organisation, we are working hard to solve the ‘triple challenge’ facing the planet by ensuring the recovery of nature, helping meet net zero and producing sustainable food. goals. Our WWF Cymru office focuses on policy, advocacy, communications, and growing support for our mission. Now you can be part of this influential team as Oceans Recovery Advocacy and Policy Manager. We see an opportunity for Wales to pilot innovative nature-based solutions for marine and coastal environments which demonstrate how marine restoration can meet these challenges, and you will be at the heart of action.
Concentrating on seagrass restoration, alongside other coastal nature based solutions and Ocean farming for seaweed, you will work closely with a network of stakeholders to raise awareness of environmental, cultural, and economic opportunities. You will also identify barriers and solutions to implementation and grow political, public and business support. You will feed into wider WWF Cymru advocacy work on nature restoration and climate change too, working as part of the team developing impactful interventions which will contribute to WWF-UK’s three strategic goals on Climate, Food, and Thriving Habitats & Species. You will collaborate closely with UK Project teams to share experiences of ocean restoration and contribute to development of further projects as well as provide subject guidance to colleagues across the organisation.
For this role you must have a good understanding of Wales, including its institutions, political culture, stakeholders (particularly marine) and environment. Comfortable engaging with internal and external stakeholders, you will be an effective networker with excellent influencing, relationship building and communication skills. Important is the ability to synthesize complex information, regulations and policies and translate them into strategic, impactful advice and communications.
If you are passionate about making our world a better place through your work, we would love to hear from you. Please visit our website via the link, complete the online registration and submit a copy of your up-to-date CV with the Supporting Statement highlighting what makes you a good fit for us.
Every role at WWF is open to applications from all sections of society. We believe in the potential of everyone regardless of; sex, race, religion or belief, ethnic origin, different physical ability, family structure, socio-economics, age, nationality or citizenship, marital, domestic or civil partnership, sexual orientation, gender identity, or any other aspect that makes you, well you. Here at WWF, we are committed to conscious inclusion that helps cultivate an ethos of belonging, connection and shared purpose. We believe that the more diverse we are the better we become; this brings us together and empowers us to develop, engage and inspire; and critically to help build a future where people can live in harmony with nature.
Our policies and benefits reflect the importance of people being able to have a good work-life balance and being able to bring their ‘full self’ to work.
Our world needs you like never before. We are the first generation to know we are destroying the world and we could be the last that can do anything about it. We are looking for people who are passionate about making it politically, socially and economically unacceptable to destroy our planet’s natural resources. We need you to join us in the fight for our world.
_______________________________________________________________
Fel sefydliad cadwraethol annibynnol mwyaf blaenllaw’r byd, rydym yn gweithio’n galed i ddatrys yr ‘her driphlyg’ sy’n wynebu’r blaned trwy sicrhau adferiad byd natur, helpu i gyrraedd sero net a chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Mae swyddfa WWF Cymru yn canolbwyntio ar bolisi, dadleuaeth, cyfathrebu a chynyddu cefnogaeth i’n cenhadaeth. Gallwch fod yn rhan o’r tîm dylanwadol hwn fel Rheolwr Dadleuaeth a Pholisi Adferiad Moroedd. Gwelwn gyfle i Gymru dreialu atebion arloesol wedi’u seilio ar natur ar gyfer amgylcheddau morol ac arfordirol sy’n dangos sut y gall adferiad morol ymdrin â’r heriau hyn, a byddwch chi yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith hwn.
Gan ganolbwyntio ar adfer morwellt, ynghyd ag atebion arfordirol eraill sy’n seiliedig ar natur a ffermio morol am wymon, byddwch yn gweithio’n agos gyda rhwydwaith o randdeiliaid i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd. Byddwch hefyd yn canfod rhwystrau ac atebion i’r gwaith o’u gweithredu, ac yn sicrhau twf yn y gefnogaeth gan wleidyddion, y cyhoedd a busnesau. Byddwch yn bwydo i mewn i waith dadleuaeth ehangach WWF Cymru ar adferiad natur a newid hinsawdd hefyd, gan weithio fel rhan o’r tîm sy’n datblygu ymyriadau llawn effaith a fydd yn cyfrannu at dri nod strategol WWF-UK ar yr Hinsawdd, Bwyd, a Chynefinoedd a Rhywogaethau sy’n Ffynnu. Byddwch yn cydweithredu’n agos â thimau Prosiect y DU i rannu profiadau o adferiad morol, yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu mwy o brosiectau ac yn rhoi arweiniad ar y pwnc i gydweithwyr ar draws y sefydliad.
Ar gyfer y rôl hon, bydd arnoch angen dealltwriaeth dda o Gymru, gan gynnwys ei sefydliadau, ei diwylliant gwleidyddol, rhanddeiliaid (yn arbennig rhai morol) a’i hamgylchedd. Yn gyfforddus i ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, byddwch yn rhwydweithiwr effeithiol â sgiliau rhagorol o ran dylanwadu, meithrin perthnasoedd a chyfathrebu. Mae’r gallu i gyfuno gwybodaeth, rheoliadau a pholisïau cymhleth a’u trosi’n gyngor a chyfathrebiadau strategol sy’n cael effaith fawr yn bwysig hefyd.
Os ydych yn teimlo’n angerddol dros wneud ein byd yn lle gwell trwy eich gwaith, byddem wrth ein bodd i glywed gennych chi. Cliciwch ar y ddolen a gwneud cais trwy ein gwefan gan gyflwyno copi o’ch CV cyfredol a’r Datganiad Ategol i nodi beth sy’n golygu y byddwch yn cyd-asio’n dda gyda ni.
Mae pob rôl yn WWF yn agored i geisiadau gan bob rhan o’r gymdeithas. Credwn ym mhotensial pawb heb ystyried; rhyw, hil, crefydd neu gred, tarddiad ethnig, gallu corfforol gwahanol, strwythur teuluol, ffactorau economaidd-gymdeithasol, oed, cenedligrwydd neu ddinasyddiaeth, partneriaeth briodasol, ddomestig neu sifil, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, neu unrhyw agwedd arall sy’n golygu mai chi yw chi. Yma yn WWF, rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant ymwybodol sy’n helpu i feithrin ethos o berthyn, cysylltiad a nod cyffredin. Yn ein barn ni, po fwyaf amrywiol ydym ni, gorau y byddwn ni; mae hyn yn ein dwyn ynghyd ac yn ein grymuso i ddatblygu, ymgysylltu ac ysbrydoli; ac yn hollbwysig, i helpu i greu dyfodol lle gall pobl fyw mewn cytgord â natur.
Mae ein polisïau a’n buddion yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn bwysig i bobl allu cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a gallu dod â’u ‘hunan llawn’ i’r gwaith.
Mae ar ein byd eich angen chi mwy nag erioed o’r blaen. Ni yw’r genhedlaeth gyntaf sy’n gwybod ein bod ni’n dinistrio’r byd ac mae’n bosibl mai ni yw’r genhedlaeth olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n teimlo’n angerddol ynghylch ei gwneud yn annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd dinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae arnom angen ichi ymuno â ni yn y frwydr dros ein byd.