This is a UK based contract and as such, you are required to have the Right to Work in the UK. Evidence of your Right to Work will be checked prior to interview.
Are you passionate about nature and used to working with volunteers and community-led organisations? This is a unique opportunity to use your expertise to help bring our world back to life.
In March 2023, the world’s first People’s Plan for Nature was published, calling for urgent, immediate action to protect and fundamentally change how we value nature.
To achieve its goal The People’s Plan calls for the building of a sustainable network of community action across the UK. Nature Neighbourhoods is a RSPB, WWF and National Trust partnership project to help at least 17 Voluntary, Community & Social Enterprise (VCSE) sector partners to mobilise their communities and lead positive change for nature and people. 3 of these partner communities are in Wales, and this is where your skills are needed as Nature Neighbourhoods Officer.
As Nature Neighbourhoods Officer (Wales) you will be part of the team at WWF Cymru (the Welsh office of WWF-UK, the world’s leading independent conservation organisation). Your role will be to support local community sector partners in the identification of community leaders, facilitate the sharing of support and expertise of the charities with community partners and encourage VCSE’s to network with each other.
Day-to-day you will collaborate with colleagues across the Partnership to deliver the Nature Neighbourhoods project. You will work with colleagues and volunteers to build local networks as well as support VCSE partners in Wales and stakeholders interested in supporting the project. You will help shape the blueprint for how the charity partners work with interested organisations in the future too. You will also engage with stakeholders to consult on and help shape proposals for each neighbourhood, supporting the creation of community partnerships which will ensure that stakeholders and communities are integral to shaping the plans for each place.
To succeed, you will have experience of working with volunteers and community-led organisations and a good understanding of Wales and its communities, institutions, political structures, culture, stakeholders and environment. Comfortable delivering projects with multiple stakeholders, you will possess strong project co-ordination, stakeholder management and communications skills. You will be used to working in a bilingual (Welsh/English) environment and delivering activities bilingually in Wales too. The ability to communicate in Welsh is essential, as is the ability to make decisions, problem-solve and drive projects forward within budgets and timescales. A background in a partnership project environment working would be an advantage.
Please click on the link and apply via our website by submitting a copy of your up-to-date CV and Supporting Statement to highlight what makes you a good fit for us.
Applications will be accepted in Welsh as well as English for this role.
WWF UK are committed to an inclusive and accessible recruitment process. As a Disability Confident Employer, we acknowledge that some candidates may require additional support to overcome barriers experienced during the application process. If you require any reasonable adjustments to support your application or interview, please reach out to the Talent Acquisition team via recruitment@wwf.org.uk
Our policies and benefits reflect the importance of people being able to have a good work-life balance and being able to bring their ‘full self’ to work.
Our world needs you like never before. We are the first generation to know we are destroying the world and we could be the last that can do anything about it. We are looking for people who are passionate about making it politically, socially and economically unacceptable to destroy our planet’s natural resources. We need you to join us in the fight for our world.
Welsh language version
Swyddog Cymdogaethau Natur (Cymru)
£XX.XX pro rata i 22.5 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol o 2 flynedd
Caerdydd CF10 2HH / Gweithio Hybrid
Mae hwn yn gytundeb yn y DU ac felly, mae'n ofynnol bod gennych Hawl i Weithio yn y DU. Bydd tystiolaeth o'ch Hawl i Weithio yn cael ei gwirio cyn y cyfweliad.
Ydych chi'n teimlo’n angerdd am natur ac wedi arfer gweithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol? Cyfle unigryw yw hwn i ddefnyddio'ch arbenigedd i helpu i ddod â'n byd yn ôl yn fyw.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd Cynllun Natur y Bobl cyntaf y byd, yn galw am weithredu brys, ar unwaith i amddiffyn a newid yn sylfaenol sut rydym yn gwerthfawrogi byd natur.
Er mwyn cyflawni’r nod mae Cynllun Natur y Bobl yn galw am adeiladu rhwydwaith cynaliadwy o weithredu cymunedol ar draws y DU. Mae Cymdogaethau Natur yn brosiect partneriaeth rhwng yr RSPB, WWF a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i helpu o leiaf 17 o bartneriaid yn y sector Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol (MGCA) i ysgogi eu cymunedau ac arwain newid cadarnhaol ar gyfer natur a phobl. Mae 3 o’r cymunedau partner hyn yng Nghymru, a dyma lle mae angen eich sgiliau fel Swyddog Cymdogaethau Natur.
Fel Swyddog Cymdogaethau Natur (Cymru) byddwch yn rhan o dîm WWF Cymru (swyddfa Gymreig WWF-UK, prif sefydliad cadwraeth annibynnol y byd). Eich rôl fydd cefnogi partneriaid sector cymunedol lleol i adnabod arweinwyr cymunedol, hwyluso rhannu cefnogaeth ac arbenigedd yr elusennau gyda phartneriaid cymunedol ac annog MGCA i rwydweithio â'i gilydd.
O ddydd i ddydd byddwch yn cydweithio â chydweithwyr ar draws y Bartneriaeth i gyflwyno'r prosiect Cymdogaethau Natur. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr a gwirfoddolwyr i adeiladu rhwydweithiau lleol yn ogystal â chefnogi partneriaid MGCA yng Nghymru a rhanddeiliaid sydd â diddordeb mewn cefnogi'r prosiect. Byddwch yn helpu i lunio'r glasbrint ar gyfer sut mae'r partneriaid elusennol yn gweithio gyda sefydliadau sydd â diddordeb yn y dyfodol hefyd. Byddwch hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i ymgynghori ar gynigion ar gyfer pob cymdogaeth a helpu i’w llunio, gan gefnogi creu partneriaethau cymunedol a fydd yn sicrhau bod rhanddeiliaid a chymunedau yn rhan annatod o lunio’r cynlluniau ar gyfer pob lle.
I lwyddo, bydd gennych brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol a dealltwriaeth dda o Gymru a’i chymunedau, sefydliadau, strwythurau gwleidyddol, diwylliant, rhanddeiliaid a’r amgylchedd. Fyddwch chi’n gyffyrddus yn cyflwyno prosiectau gyda rhanddeiliaid lluosog a bydd gennych sgiliau cydlynu prosiect, rheoli rhanddeiliaid a chyfathrebu cryf. Byddwch wedi arfer gweithio mewn amgylchedd dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) a chyflwyno gweithgareddau yn ddwyieithog yng Nghymru hefyd. Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i wneud penderfyniadau, datrys problemau a gyrru prosiectau yn eu blaen o fewn cyllidebau ac amserlenni. Byddai cefndir mewn amgylchedd gwaith prosiect partneriaeth o fantais.
Cliciwch ar y ddolen a gwnewch gais trwy ein gwefan trwy gyflwyno copi o'ch CV a'ch Datganiad Ategol diweddaraf i dynnu sylw at yr hyn sy'n eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd.
Derbynnir ceisiadau yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg ar gyfer y rôl hon.
Mae WWF UK wedi ymrwymo i broses recriwtio gynhwysol a hygyrch. Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cydnabod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai ymgeiswyr i oresgyn rhwystrau a brofwyd yn ystod y broses ymgeisio. Os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol i gefnogi eich cais neu gyfweliad, cysylltwch â’r tîm Caffael Talent drwy recruitment@wwf.org.uk
Mae ein polisïau a’n buddion yn adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau fod pobl yn gallu cael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a dod â’u ‘hunan lawn’ i’r gwaith.
Mae ein byd eich angen chi fel erioed o'r blaen. Ni yw'r genhedlaeth gyntaf i wybod ein bod yn dinistrio'r byd ac efallai mai ni yw'r olaf a all wneud unrhyw beth yn ei gylch. Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwd dros ei gwneud hi’n annerbyniol yn wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd i ddinistrio adnoddau naturiol ein planed. Mae angen i chi ymuno â ni yn y frwydr dros ein byd.